GOAT Parties Llandudno
Pecynnau Parti Plant yn Llandudno
Clustffonau disgo distaw, goleuadau disgo, seinyddion JBL ac ategolion parti sy’n goleuo ar gyfer partïon pen-blwydd plant, i’w casglu gennym ni yn Llandudno.
Beth Sy’n Gynwysedig?
-
Casglu ac Arddangosiad
Casglwch gennym ni yn Llandudno a byddwn ni’n dangos i chi sut i osod y cyfan. Gallwn ni drefnu danfon os oes angen.
-
Gwasanaeth Di-drafferth
Rydyn ni’n gofalu am yr holl offer, felly mae gennych chi un peth yn llai i boeni amdano. Yn cynnwys hyd at 5 awr o logi.
-
Clustffonau Disgo Distaw
Clustffonau disgo distaw diwifr o’r safon uchaf, gyda hyd at 70 o glustffonau ar gael.
-
Bocs Parti Spotify
Chwaraewch eich hoff restrau chwarae Spotify neu defnyddiwch rai o’n rhestrau parod ni, wedi’u teilwra ar gyfer pob math o chwaeth!
-
Ategolion Parti
Ffyn ewyn sy’n goleuo, creonau wyneb neon sy’n ddiogel i’r croen gyda goleuadau UV, sbectols ffynci, balŵns neon, a mwy.
-
Goleuadau Disgo
Goleuadau disgo llawn hwyl i greu’r awyrgylch parti perffaith a goleuo’r ystafell.
-
Seinyddion JBL Pwerus
Seinyddion JBL o ansawdd uchel ar gyfer cerddoriaeth gefndir drwy gydol eich digwyddiad.
-
Meicroffonau Diwifr
Perffaith ar gyfer cyhoeddiadau, areithiau, gemau ac eiliadau arbennig.
Gwnewch ben-blwydd nesaf eich plentyn yn ddi-drafferth gyda’n pecyn parti, a’i wneud yn ddathliad i bawb ei fwynhau a’i gofio!
Llogi Parti ar Draws Conwy a Gogledd Cymru
GOAT Parties: y profiad llogi parti mwyaf baaa-ndigedig yng Ngogledd Cymru!
Y Pen-blwydd Nesaf Wedi’i Drefnu!
ArchebwchCasglwch gennym ni yn Llandudno
Mae casglu am ddim. Pan fyddwch chi’n casglu’r cyfan, byddwn ni’n dangos i chi sut mae popeth yn gweithio, fel y gallwch chi ei osod eich hun a gofyn unrhyw beth i ni yn y fan a’r lle. Byddwch chi hefyd yn gweld bod popeth yno ac yn gweithio cyn eich parti.
Rydyn ni’n llogi i bartïon ar draws Llandudno, Conwy, Deganwy, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn a gweddill Gogledd Cymru. Os nad ydych chi’n gallu casglu, gallwn ni drefnu i’w ddanfon. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n archebu a byddwn ni’n trefnu hynny gyda chi.