GOAT Parties Llandudno
Llogi Disgo Distaw yn Llandudno a Gogledd Cymru
Llogi disgo distaw diwifr o’r safon uchaf gyda hyd at 3 sianel gerddoriaeth, sy’n hawdd ei osod, ar gyfer partïon ar draws Llandudno ac ardal Conwy.
Hwyl Ddistaw
Croeso i GOAT Parties: y profiad disgo distaw mwyaf baaa-ndigedig yng Ngogledd Cymru!
Wedi’n hysbrydoli gan eifr mynydd direidus Llandudno, rydyn ni’n dod â’r un egni chwareus ac ysbryd gwyllt i bob digwyddiad. Mae ein systemau disgo distaw cludadwy yn gadael i chi droi unrhyw le, o’r lolfa a’r ardd i ben mynydd, yn llawr dawnsio i chi’ch hun.
Disgo Distaw
Gyda thair sianel gerddoriaeth, clustffonau diwifr sy’n goleuo a naws sy’n siwtio pawb, mae GOAT Parties yn ei gwneud hi’n hawdd i westeion ddawnsio, chwerthin a chanu (yn dawel!) heb darfu ar y cymdogion. P’un ai pen-blwydd, priodas, digwyddiad corfforaethol neu ŵyl sydd gennych chi, rydyn ni yma i helpu.
Ni sy’n delio â’r dechnoleg er mwyn i chi ganolbwyntio ar yr hwyl: plygiwch o i mewn, dewiswch eich rhestr chwarae, a phartïwch fel un o arwyr Llandudno.
GOAT Parties: hud y mynydd yn eich disgo distaw.
Partïwch yn Uchel
Paratowch eich clustffonau disgo distaw a goleuwch y noson gyda naws neon.
Archebwch-
Dewiswch Eich Dyddiad
Dewiswch ddyddiad eich digwyddiad a’ch pecyn.
-
Casglu ac Arddangosiad
Casglwch gennym ni yn Llandudno a byddwn ni’n dangos i chi sut mae’r cyfan yn gweithio. Gallwn ni drefnu danfon os oes angen.
-
Plygio a Chwarae
Cysylltwch eich rhestrau chwarae Spotify â hyd at 3 sianel.
-
Amser Parti
Mwynhewch brofiad disgo distaw bythgofiadwy.
Offer o’r Safon Uchaf
Popeth Sydd ei Angen ar gyfer Noson Anhygoel
- Clustffonau Diwifr
- Hyd at 3 Sianel Gerddoriaeth
- Batri Hirhoedlog
- Cas Cario Hwylus
Sut mae disgo distaw yn gweithio
Mae pob gwestai’n gwisgo pâr o glustffonau LED diwifr. Mae’r gerddoriaeth yn dod o’n bwrdd sain plygio-a-chwarae, sydd â thair sianel, ac rydych chi’n cysylltu rhestr chwarae Spotify â phob un. Mae’r gwesteion yn dewis y sianel maen nhw eisiau ar eu clustffonau, felly gall un ystafell ddawnsio i dair rhestr chwarae wahanol ar yr un pryd heb seinyddion swnllyd.
Mae hynny’n ei wneud yn addas ar gyfer lleoliadau sydd â chyfyngiadau sŵn, partïon gartref lle mae’r cymdogion yn agos, a chriwiau cymysg lle nad ydy pawb yn hoffi’r un gerddoriaeth.
Faint o glustffonau?
Gallwn ni ddarparu hyd at 70 pâr. Dywedwch wrthon ni tua faint o westeion rydych chi’n eu disgwyl pan fyddwch chi’n archebu.
Dan do neu yn yr awyr agored
Mae’r ddau’n gweithio. Mae gerddi a phebyll mawr yn iawn. Mae’r gerddoriaeth yn chwarae o Spotify, felly yn yr awyr agored bydd angen wi-fi yn y lleoliad arnoch chi, neu restrau chwarae wedi’u lawrlwytho cyn y parti.
Am faint mae’r llogi?
Mae llogi disgo distaw am un noson. Rydych chi’n dod â’r offer yn ôl aton ni drannoeth, neu os ni sy’n ei redeg, rydyn ni’n mynd â fo gyda ni.
Archebu a blaendaliadau
Gallwch chi archebu a thalu ar-lein, neu gadw eich dyddiad gyda blaendal o £20 i £50, yn dibynnu ar y pecyn. Rydyn ni’n anfon anfoneb am y gweddill wythnos cyn eich digwyddiad.
Yn trefnu priodas? Gweler llogi disgo distaw ar gyfer priodas.
Dwy ffordd o logi
Ni sy’n ei redeg ar y noson
Mae un ohonon ni’n dod i’ch digwyddiad, yn gosod popeth, yn rhannu’r clustffonau ac yn aros i redeg y gerddoriaeth a chymryd ceisiadau. Mae’n siwtio digwyddiadau mwy, neu unrhyw un sydd ddim eisiau meddwl am yr offer ar y noson.
Chi sy’n ei redeg
Casglwch bopeth gennym ni yn Llandudno a byddwn ni’n dangos i chi sut mae’r cyfan yn gweithio cyn i chi fynd. Wedi hynny, eich noson chi ydy hi. Does neb o GOAT Parties yn aros i bacio, felly dydyn ni ddim yn pennu amser gorffen: mae’r parti’n dod i ben pan fyddwch chi’n penderfynu, neu pan fydd rheolau eich lleoliad yn dweud hynny.
Ddim yn siŵr pa un sy’n addas i’ch digwyddiad? Anfonwch neges aton ni neu ffoniwch 07534 392535 a byddwn ni’n trafod y peth gyda chi.
Casglwch gennym ni yn Llandudno
Mae casglu am ddim. Pan fyddwch chi’n casglu’r cyfan, byddwn ni’n dangos i chi sut mae popeth yn gweithio, fel y gallwch chi ei osod eich hun a gofyn unrhyw beth i ni yn y fan a’r lle. Byddwch chi hefyd yn gweld bod popeth yno ac yn gweithio cyn eich parti.
Rydyn ni’n llogi i bartïon ar draws Llandudno, Conwy, Deganwy, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn a gweddill Gogledd Cymru. Os nad ydych chi’n gallu casglu, gallwn ni drefnu i’w ddanfon. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n archebu a byddwn ni’n trefnu hynny gyda chi.